Bartholomew Roberts (Barti Ddu)

- 1718: Roedd Barti Ddu yn ail fêt ar y 'Princess', llong a gymerwyd drwy rym gan Howel Davis, môr-leidr arall o Gymru.
- Bu’n rhaid i Barti Ddu wasanaethu Davis, a’i cymerodd yn garcharor ar y llong.
- 1719: Ar ôl chwe wythnos, etholwyd Barti Ddu yn gapten y llong, wedi i Howel Davis gael ei saethu.
- Unwaith, hwyliodd tuag at 42 o longau o Bortiwgal, ac unwaith iddo adnabod pa un oedd y cyfoethocaf ohonynt, mi fyrddiodd hi a hwylio i ffwrdd gyda hi.
- Roedd nifer o bobl yn ofni Barti Ddu. Wedi sbeliau o lwyddo, âi'r môr-ladron i'r lan am gyfnodau mewn lleoedd fel Surinam a Sierra Leone.
- Un o’r llongau cyntaf i Barti Ddu ei chipio oedd ffrigad yn perthyn i'r Royal African Company. Fe’i hail-enwodd yn 'Royal Fortune'.
- 1722: Lladdwyd Barti Ddu a thaflwyd ei gorff i'r môr, gyda holl wisgoedd gwych y môr-leidr amdano, yn ôl ei ddymuniad.
- Roedd yn rhaid i gapteiniaid llongau môr-ladron fod yn wrol, ac yr oedd enw gan Roberts am fod yn anturus a mentrus. Ond, hefyd roedd yn ddyn cymharol drugarog.
- Mae sôn fod Barti Dddu wedi cymryd 400 o longau yn ystod ei yrfa, cadarnhawyd hyn gan adroddiadau gan lywodraethwyr trefedigaethol a thystiolaeth rhai o’i ddioddefwyr.
'Bywyd byr a llawen fydd fy arwyddair i.' – Cyfieithwyd o Richard Sanders, 'If a Pirate I Must Be' (Aurum 2007), tud. 1.