Harri VII

Mae Harri VII yn enwog am fod yn Frenin Lloegr ac am ddechrau llinach y Tuduriaid.

Hari VII scaled
  • 1457: Edmund Tudur, ei dad, yn marw cyn i Harri gael ei eni yng Nghastell Penfro.
  • 1471: Harri a’i ewythr Jasper yn ffoi i Lydaw am 14 mlynedd ar ôl cwymp y Lancastriaid. Roedden nhw yno am 14 mlynedd.
  • 1485: Glaniodd Harri a’i ewythr ym Mae’r Felin ger Aberdaugleddau ar 7 Awst.
  • Teithiodd Harri drwy De Cymru i’r Amwythig, ac ar 22 Awst lladdwyd Rhisiart III ar faes Bosworth, a choronwyd Harri'n Frenin yn ei le.
  • Defnyddiodd ei gysylltiadau teuluol â Chymru i ennill cefnogaeth y Cymry i'w ymgyrch i gipio'r Goron.
  • 1486: Harri VII yn priodi Elisabeth o Efrog.
  • 1486: Medi - Ei fab hynaf, Arthur, yn cael ei eni.
  • 1491: Harri VIII yn cael ei eni.
  • 1502: Arthur, ei fab hynaf, yn marw.
  • 1503: Ei wraig, Elisabeth o Efrog, yn marw.

Man Geni: Castell Penfro, Sir Benfro

Dyddiad Geni: 28 Ionawr 1457

Dyddiad Marw: 21 Ebrill 1509

‘Wedi hyn cawn ef ar Faes Bosworth, yn Awst 1485, yn gwisgo coron y gormes-deyrn Rhisiart III, a’r awel dyner yn chwifio’r faner gwyn a gwyrdd yn dwyn lluniau o’r Ddraig Goch.’ – R. T. Williams, ‘Cymry Enwog: Cyfnod y Tuduriaid a‘u Dylanwad ar
Hanes eu Hamserau’ (Swyddfa’r Seren 1915), tud. 10