John Charles

Pêl-droediwr oedd John Charles a chwaraeodd i Leeds United, Juventus a Chymru. Yn ôl rhai, ef oedd un o’r pêl-droedwyr gorau i'w fagu yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif.

John Charles scaled

• 1931: Ganwyd John Charles yn 19 Stryd Alice, Cwmbwrla, Abertawe.
• 1945: Gadael ysgol yn 14 oed ac ymuno â chlwb pêl-droed Abertawe.
• 1948: Ymunodd â chlwb Leeds United yn 17 mlwydd oed. Sgoriodd 150 o goliau mewn 9 tymor gyda’r clwb.
• 1950: Chwarae i Gymru am y tro cyntaf.
• 1957: Ymunodd â chlwb Juventus o’r Eidal am record Brydeinig ar y pryd o £65,000.
• 1958: Chwaraeodd ran flaenllaw i dîm Cymru yng Nhwpan y Byd. Oherwydd anaf, methodd â chwarae yn rownd y chwarteri, a chollodd Cymru yn erbyn Brasil – i gôl gan Pelé.
• 1959: Daeth yn drydydd yn y Ballon d’Or.
• 1962: Gadael Juventus fel arwr. Sgoriodd 108 o goliau mewn 155 o gemau.
• 1962: Chwaraeodd i Leeds a Roma a Chaerdydd dros gyfnod o 4 blynedd.
• 1966: Chwaraeodd ei gêm broffesiynol olaf.
• Cafodd le yn Oriel Anfarwolion Chwaraewyr Cymru yn 1993, yn yr Oriel Pêl-droedwyr Rhyngwladol yn 1998 ac yn Oriel Pêl-droedwyr yr Eidal yn 2001.
• 2004: Marw yn ysbyty Pinderfields, Wakefield.

Man Geni: Abertawe, Dinas a Sir Abertawe

Dyddiad Geni: 27 Rhagfyr 1931

Dyddiad Marw: 21 Chwefror 2004

‘Roedd John Charles yn bêl-droediwr rhyfeddol o ddawnus. Gallai gicio pêl yn nerthol a chywir â’i ddwy droed, driblo’n dwyllodrus, neidio fel eog a thaclo’n rymus. Trwy gydol ei yrfa lachar ni chafodd gerdyn melyn na cherdyn coch, caiff ei adnabod gan bawb fel “Y Cawr Addfwyn” (Il Buon Gigante).’ – Geraint Jenkins