John Ystumllyn

Mae John Ystumllyn yn enwog am fod yn arddwr blaenllaw a goruchwyliwr tir, ac roedd yn un o'r bobl Ddu gyntaf yng Nghymru i gael hanes ei fywyd wedi ei gofnodi.

John Ystumllyn

• Mae’n debyg iddo gael ei herwgipio yn Affrica neu’r Caribî; un atgof cynnar John oedd bod yng nghwmni ei fam ar lan afon fach yng nghysgod coed pan ddaeth dynion gwyn yno a’i gipio.
• Ar ôl gymerwyd John i Ystumllyn, cafodd ei fedyddio naill ai yn eglwys Criccieth neu yn eglwys Ynyscynhaearn ger Pentrefelin, Criccieth.
• Daeth i siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg, a dysgwyd iddo sut i arddio yng ngerddi’r plas.
• Yr oedd yn abl iawn â’i ddwylo, yn ogystal: gallai greu basgedi gwiail, llwyau pren a llongau bach, ac yr oedd yn dda am drin blodau.
• 1768: Priododd John â Margaret Gruffydd yn Nolgellau, wedi i’r ddau ddianc heb ganiatâd o’r cartrefi lle y’u cyflogid.
• Bu’n gweithio fel goruchwyliwr tir yn Ynysgain Fawr ger Criccieth.
• Ar ôl cyfnod yno cynigwyd lle yn Ystumllyn i John.
• Erbyn diwedd ei oes, yr oedd yn gweithio i gangen o deulu Wynn ym Maesyneuadd, Llanaelhaearn.
• Symudodd John a Margaret i gartref newydd, sef Nanhyran, anrheg gan Ellis Wynn i gydnabod ei wasanaeth i deulu Ystumllyn.
• Cafodd John a Margaret saith o blant.
• 1786: Bu John farw o’r clefyd melyn, a chafodd ei gladdu ym mynwent Ynyscynhaearn.

Man Geni: Cyfandir Affrica

Dyddiad Geni: Anhysbys

Dyddiad Marw: 9 Gorffennaf 1786

‘Tyfodd John yn llanc golygus a hawliai sylw merched y gymdogaeth, yn eu plith Margaret Gruffydd, Hendre Mur, Trawsfynydd, a oedd yn forwyn yn Ystumllyn. Goresgynnodd Margaret ‘ei hofn o’r dyn dû’, ac ar 9 Ebrill 1768, priodwyd y ddau yn Nolgellau, lle yr aethai hi o Eifionydd i weini.’ – Ffion Mair Jones, Y Bywgraffiadur Cymreig