Albert Evans Jones (Cynan)

Mae Cynan yn enwog am fod yn fardd, dramodwr ac Eisteddfodwr.

Albert Evans Jones 1

• 1916: Graddiodd o Brifysgol Bangor. Ymunodd â’r fyddin.
• 1920: Ar ôl y Rhyfel aeth i Goleg y Bala, a chafodd ei ordeinio’n Weinidog yr eglwys ym Mhenmaen-mawr.
• 1921: Ennill y Goron yn yr Eisteddfod. ‘Telyn y Nos’ yn cael ei gyhoeddi.
• 1924: Ym Mhont-y-pŵl enillodd Cynan y Gadair Genedlaethol am ‘I’r Duw nid Adwaenir’.
• 1931: Enillodd wobr yr Eisteddfod Genedlaethol am ddrama hir, sef ‘Hywel Harris’.
• 1935: Cafodd ei ethol yn Gofiadur yr Eisteddfod. Ar ôl ei benodiad dechreuodd ddiwygio’r Orsedd.
• 1950-54: Bu’n Archdderwydd am y tro cyntaf.
• 1959: ‘Cerddi Cynan, y casgliad cyflawn’ yn cael ei gyhoeddi.
• 1963-66. Bu’n Archdderwydd am yr eildro.
• 1967: Etholwyd ef y Llywydd y Llys.
• 1969: Cafodd ei ddyrchafu’n Farchog.

Man Geni: Pwllheli, Gwynedd

Dyddiad Geni: 14 Ebrill 1895

Dyddiad Marw: 26 Ionawr 1970

‘Fe gydnabyddir yn gyffredinol fod Cynan yn un o ffigurau amlycaf bywyd llenyddol a Chenedlaethol Cymru ym mlynyddoedd canol yr ugeinfed ganrif.’ –
Ifor Rees, ‘Dŵr o Ffynnon Felin Bach – Cyfrol ddathlu canmlwyddiant geni Cynan’