Chwaraeon

Mae Clive Sullivan yn enwog am fod yn chwaraewr rygbi'r gynghrair. 

Mae Emmeline Lewis Lloyd yn enwog am fod yn un o ddringwyr benywaidd cyntaf o Brydain i ddringo yn yr Alpau.

Mae Jacob Thomas yn enwog am gynrychioli Prydain yn y Gemau Paralympaidd.

Mae Jimmy Wilde yn enwog am fod yn focsiwr, pencampwr pwysau pry'r byd o 1916–23.

Pêl-droediwr oedd John Charles a chwaraeodd i Leeds United, Juventus a Chymru. Yn ôl rhai, ef oedd un o’r pêl-droedwyr gorau i'w fagu yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif.

Mae Tommy Bamford yn enwog am fod yn bêl-droediwr sydd wedi chwarae i Wrecsam, Manchester United ac Abertawe.

Mae Thomas Maldwyn Pryce yn enwog am fod yn rasiwr ceir.