Emmeline Lewis Lloyd

Mae Emmeline Lewis Lloyd yn enwog am fod yn un o ddringwyr benywaidd cyntaf o Brydain i ddringo yn yr Alpau.

Emmeline Lewis Lloyd 1

• 1822: Ei thad, Thomas, yn dod yn Ustus Heddwch a Siryf Sir Aberteifi.
• Ar ôl gadael cartref, bu Emmeline yn ffermio a magu merlod mynydd yn Llandyfaelog Fach ger Aberhonddu.
• 1860au i’r 1870au: Aeth Emmeline i’r Alpau yn gyson i ddringo mynyddoedd.
• 1869: Gwnaeth Emmeline ac Isabella Straton ymdrech aflwyddiannus i ddringo’r Matterhorn.
• Emmeline oedd yr wythfed ferch i ddringo Mont Blanc.
• 1871: Medi – Emmeline ac Isabella a’r tywysydd Joseph Simond oedd y cyntaf erioed i ddringo yr Aiguille du Moine (3412 metr, neu 11,194 troedfedd) ger Chamonix.
• Yn yr un flwyddyn dringodd y ddwy ferch Monte Viso gyda Jean Charlet.

Man Geni: Nantgwyllt, Cwm Elan, Powys

Dyddiad Geni: 18 Tachwedd 1827

Dyddiad Marw: 22 Medi 1913

‘Ymddengys bod Miss Lewis Lloyd wedi’u denu at fynydda yn bennaf am eu bod yn teimlo nad oedd hi’n iawn cadw unrhyw ddifyrrwch ar gyfer y rhyw gwrywaidd yn unig.’ – Cyfieithwyd o Roland Clark, ‘The Victorian Mountaineers’ (B.T. Batsford 1953), tud. 181