Crefydd

Mae Dewi Sant yn enwog am fod yn Nawddsant Cymru. 

Mae Mary Jones yn enwog am gerdded 25 milltir i’r Bala i brynu Beibl, ar ôl cynilo’r arian am 6 mlynedd.

Mae Non yn enwog am fod yn fam i Dewi Sant, Nawddsant Cymru.

Mae William Morgan yn cael ei gydnabod fel y person a oedd yn bennaf gyfrifol am gyhoeddi’r cyfieithiad llawn cyntaf o’r Beibl Cymraeg yn 1588. Roedd y cyfieithiad yn rhoi cyfle i bobl Cymru ddarllen yr Hen Destament am y tro cyntaf yn Gymraeg.