
• 1792: Daeth yn Gristion yn 8 oed.
• Dysgodd Mary i wehyddu er mwyn ennill arian i gynorthwyo ei deulu tlawd.
• 1794: Pan oedd tua 10 oed, dysgodd ddarllen yn un o ysgolion cylchynol Thomas Charles.
• Cerddai’n rheolaidd i ffermdy cyfagos tua dwy filltir o’i chartref i ddarllen y Beibl.
• Bu’n cynilo am bron i 6 blynedd er mwyn casglu digon o arian i brynu Beibl ei hun.
• 1800: Pan yn 15 mlwydd oed, cerddodd dros 25 milltir i’r Bala i brynu Beibl gan Thomas Charles. Mae’n debygol prynodd un I’w hun ac un i’w chyfnither.
• 1864: Darllenodd Mary Jones ei Beibl yn gyson ar hyd y blynyddoedd, roedd y llyfr ar y bwrdd yn ei hymyl.
• Mae Beibl Mary Jones yn cael ei gadw yn Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt, ac mae’r Beibl cymrodd hi adref i’w chyfnither yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
• Mae stori Mary Jones wedi cael ei gyhoeddi mewn degau o ieithoedd gwahanol.
• 2014: Agorwyd canolfan ymwelwyr ac addysg Byd Mary Jones World yn Llanycil ger y Bala.
‘Roedd Mary mor benderfynol o gael Beibl ei hun, yn ei hiaith ei hun, fel yr arbedodd arian am chwe blynedd hir cyn ei thaith i’r Bala.’ – Cyfieithwyd o ‘Our history’, Bible Society – https://www.biblesociety.org.uk/about-us/our-history/