William Morgan

Mae William Morgan yn cael ei gydnabod fel y person a oedd yn bennaf gyfrifol am gyhoeddi’r cyfieithiad llawn cyntaf o’r Beibl Cymraeg yn 1588. Roedd y cyfieithiad yn rhoi cyfle i bobl Cymru ddarllen yr Hen Destament am y tro cyntaf yn Gymraeg.

William Morgan

• 1558: Yn 13 mlwydd oed, mynychodd Prifysgol Caergrawnt.
• 1568: Ei ordeinio’n Offeiriad.
• 1571: Gadael Prifysgol Caergrawnt i arbenigo mewn ieithoedd hynafol, sef Lladin, Groeg ac Hebraeg.
• 1572: Ficer Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth.
• 1575: Ficer yn y Trallwng.
• 1578: Ei benodi yn Ficer ym mhlwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant; cychwyn ar y gwaith o gyfieithu’r Hen Destament i’r Gymraeg.
• 1587: Symud i Lundain i oruchwylio’r gwaith o argraffu’r Beibl Cymraeg.
• 1588: Cyhoeddi’r ‘Beibl Cyssegr-lan’, y Beibl cyflawn cyntaf yn y Gymraeg.
• 1595: Cysegrwyd yn Esgob Llandaf.
• 1601: Cael ei benodi yn Esgob Llanelwy.

Man Geni: Penmachno, Sir Conwy 

Dyddiad Geni: 1545

Dyddiad Marw: 10 Medi 1604

‘Y gŵr a roddodd inni’r Beibl yn gyfan, y ddau Destament a’r Apocryffa, oedd William Morgan.’ – Enid Pierce Roberts, ‘William Morgan a’r Beibl Cymraeg’ (Gwasg y Bwthyn 2004), tud. 21