Non

Mae Non yn enwog am fod yn fam i Dewi Sant, Nawddsant Cymru.

Non

• Merch yr uchelwr neu bennaeth llwyth Cynyr o Gaer Gawch.
• Roedd o bosib yn lleian.
• Mae sôn ei bod wedi’i threisio gan Sant (Sanctus), Brenin Ceredigion.
• Non oedd mam Dewi Sant, ac o bosib dau ferch, Môr a Magna.
• Roedd Gildas Sant yn pregethu un tro yn un o eglwysi’r ardal, a chollodd ei leferydd am fod Non yn feichiog gyda Dewi.
• Roedd brenin lleol, o glywed am y beichiogrwydd, yn ofni am bŵer y plentyn; felly cynllwyniodd i’w ladd wedi iddo eni, ond cafodd ei atal gan storm fawr.
• Dywedir bod Non wedi sefydlu eglwysi yng Nghernyw, Swydd Dyfnaint, a Llydaw lle mae wedi ei chladdu.
• Mae’r eglwysi gydag enw Non yng Nghymru yn agos at eglwysi gydag enw Dewi, sef Llanerchaeron a Llannon yng Ngheredigion, a Llannon yn Sir Gaerfyrddin.
• Perfformiwyd drama canoloesol am ganrifoedd yn Llydaw o’r enw ‘Buhez Santes Nonn’ (Buchedd Santes Non), am fywyd Santes Non.
• Mae Gŵyl y Santes Non yn cael ei ddathlu ar Fawrth yr ail yng Nghymru.

Man Geni: Sir Benfro

Dyddiad Geni: 5ed Ganrif hwyr

Dyddiad Marw: 6ed Ganrif

‘Mae Buchedd Dewi Sant, a ysgrifennwyd gan y mynach Rhygyfarch yn 1080, yn canolbwyntio’n bennaf ar ei bywyd fel lleian a rhoi genedigaeth i Dewi. Ysgrifennwyd y ‘Fuchedd’ hon bum can mlynedd ar ôl marw Dewi, gyda Rhygyfarch yn tynnu ar hen lawysgrifau yn llyfrgell y gadeirlan, a thraddodiadau llafar.’ – Cyfieithwyd o ‘Who is St Non?’, Eglwys Gadeiriol Tyddewi – https://www.stdavidscathedral.org.uk/discover/history/St-Non