
• Cafodd Clive sawl llawdriniaeth pan oedd yn ei arddegau.
• 1961: Ymunodd Clive â’r fyddin.
• Yn ystod ei gyfnod yn Catterick dechreuodd chwarae rygbi i’r fyddin, a chafodd ei arwyddo fel asgellwr gan glwb rygbi’r gynghrair Hull FC.
• 1963: Amharwyd ar ddechrau ei yrfa fel chwaraewr gan anafiadau, llawdriniaethau ar ei ben-glin, a damwain car ddifrifol.
• 1964: Gadawodd y fyddin a dechrau chwarae rygbi’r gynghrair yn llawn amser.
• 1966: Priododd Rosalyn Patricia Byron. Cawsant ddau o blant sef Anthony a Lisa.
• 1968: Mewn un gêm yn erbyn Doncaster sgoriodd saith cais, sy’n dal i fod yn record i Hull FC.
• 1967: Chwaraeodd Clive i dîm Prydain Fawr am y tro cyntaf.
• 1972: Cafodd Clive ei ddewis yn gapten – y tro cyntaf i berson Du fod yn gapten ar dîm Prydain Fawr mewn chwaraeon o unrhyw fath.
• Bu Clive yn gapten ar dîm Rygbi’r Gynghrair Cymru hefyd.
• Chwaraeodd Clive dros Hull FC a Hull Kingston Rovers; gan ddod y chwaraewr cyntaf i sgorio dros 100 o geisiau i’r ddau dîm.
• 1972: Cafodd ei urddo ag MBE.
‘Roedd bob amser yn berygl, ni fyddai byth yn cael ei ddal, fel y profodd gyda’r 406 o weithiau y rhoddodd y bêl dros y llinell gais. – Cyfieithwyd o Bev Risman, ‘Clive Sullivan’ in ‘The Glory of their Times- Crossing the Colour Line in Rugby League’ (Vertical Editions 2004), tud. 129.