Jimmy Wilde

Mae Jimmy Wilde yn enwog am fod yn focsiwr, pencampwr pwysau pry'r byd o 1916–23.

Jimmy Wilde

• Aeth i weithio yn y pwll glo. Bu’n gweithio gyda Dai Davies, hen ymladdwr mynydd, a ddysgodd lawer iddo am focsio a’i wahodd i’w gartref i ymarfer ar y llofft.
• Ar ôl i deulu Jimmy chwalu cafodd lety yn nhŷ Dai Davies, ac yn ddiweddarach priododd Lisbeth, merch y lletywr.
• 1907: Cafodd ddamwain yn y gwaith, a bu ar ei gefn am flwyddyn a rhagor yn aros i’w goes wella.
• Yn ystod ei yrfa anhygoel cafodd 864 o ornestau, yn pwyso dim mwy na 7 stôn 10 pwys.
• 1914: Enillodd bencampwriaeth pwysau pry Prydain drwy guro Joe Symmonds.
• 1915: Collodd ei deitl i Tancy Lee yn y 17eg rownd. Honno oedd yr ornest gyntaf a gollodd.
• 1916: Curodd Joe Symmonds i gipio’r teitl drachefn, ac yn Ionawr , talodd y pwyth yn ôl i Tancy Lee yn y 11eg rownd.
• Diwedd 1916: Erbyn hynny’n swyddog ymarfer corff yn y fyddin, trechodd Young Zulu Kid o America yn yr 11eg rownd i ennill pencampwriaeth pwysau pry’r byd.
• 1920: Aeth ar daith focsio i America a threchu pob un o’i wrthwynebwyr heb fawr o drafferth.
• 1921: Fe’i trechwyd yn y 17eg rownd gan Pete Herman o America.
• 1923: Am £15,000, penderfynodd fynd i Efrog Newydd i amddiffyn ei deitl yn erbyn Pancho Villa, collodd Jimmy yn y seithfed rownd.
• 1938: Ysgrifennodd ei hunangofiant ‘Boxing was my Business’.

Man Geni: Tylorstown, Rhondda Cynon Taf

Dyddiad Geni: 12 Mai 1892

Dyddiad Marw: 11 Mawrth 1969

‘Clywodd Dai Davies fod Jimmy yn frwd dros focsio, ac addawodd ei wylio’n fuan, ond dysgodd hefyd fod Jimmy’n focsiwr pwysau pry uchelgeisiol iawn, fel ei arwr, Freddie Welsh.’ – Cyfieithwyd o Gareth Harris, ‘Jimmy Wilde: World Flyweight Champion Boxer – The Tylorstown Legend’ (Coalopolis Publishing 2006), tud. 5