
• 1961: Yn 12 oed dywedodd wrth ei rieni mai ei uchelgais oedd rasio ceir.
• 1969: Dechrau rasio ym Mharc Mallory, Swydd Gaerlŷr yn 20 mlwydd oed.
• 1970: Enillodd y Daily Express Crusader Championship ar gyfer gyrwyr ifanc.
• Wedi ennill y Crusader Championship, gadawodd ei yrfa ffermio i ganolbwyntio ar rasio.
• 1974: 12 Mai – Cyrhaeddodd ras Fformiwla 1, a chafodd ei arwyddo i dîm Token.
• 1974: 26 Mai – Gwrthodwyd lle iddo yn Grand Prix Monaco felly cystadlodd ac enillodd yn y ras Fformiwla 3 yn lle.
• 1974: 23 Mehefin – Cynigiwyd cyfle i Pryce gyda thîm F1 Shadow, a chystadlodd iddynt am y tro cyntaf yn ras Grand Prix yr Iseldiroedd.
• 1977: 5 Mawrth – Ar ddechrau Grand Prix De Affrica tarodd swyddog tân wrth deithio 170 m.y.a, gan ladd y ddau ar unwaith.
• 1996: Sefydlwyd Tlws Goffa Tom Pryce i wobrwyo’r gyrrwr neu sefydliad o Gymru sydd wedi dangos y potensial mwyaf yn y byd trafnidiaeth.
• 2007: Gosodwyd murlun i’w gofio amdano yn nhref Rhuthun.
‘Roedd Tom yn un o’r gyrwyr gorau oedd ar gael.’ – Cyfieitwyd o Niki Lauda yn James Roberts,’Legends: Tom Pryce’, Red Bull, 11 Rhagfyr 2016 – https://www.redbull.com/gb-en/tom-pryce-legends-profile