Thomas Charles Bamford

Mae Tommy Bamford yn enwog am fod yn bêl-droediwr sydd wedi chwarae i Wrecsam, Manchester United ac Abertawe.

llun o Tommy Bamford

• Bu’n chwarae pêl-droed fel amatur i Ddociau Caerdydd a Penybont.
• 1928: Symudodd Tommy i Wrecsam, ac fel chwaraewr amatur sgoriodd chwech gôl mewn saith gêm.
• 1929: Arwyddwyd contract proffesiynol i chwarae dros Wrecsam, a sgoriodd ei gôl gyntaf fel chwaraewr proffesiynol.
• Cafodd 5 Cap i Gymru, a sgoriodd gôl yn erbyn yr Alban o fewn y 6 munud cyntaf.
• 1931: Enillodd fedal enillwyr Cwpan Cymru.
• Sgoriodd 209 o goliau mewn 200 o gemau i Wrecsam.
• 1934: Ar gychwyn tymor ‘34/’35 arwyddodd gyda Manchester United.
• Sgoriodd 57 gôl mewn 109 o gemau dros 4 tymor i Manchester United.
• 1938: Symudodd o Manchester United i Abertawe.
• Sgoriodd 18 gôl mewn 40 o ymddangosiadau i’r clwb.

Man Geni: Port Talbot, Castell-nedd Port Talbot

Dyddiad Geni: 2 Medi 1905

Dyddiad Marw: 12 Rhagfyr 1967

‘Roedd Thomas Bamford yn bêl-droediwr proffesiynol Cymreig. Yn ystod ei yrfa, gwnaeth dros 200 o ymddangosiadau yn y Gynghrair Bêl-droed, yn fwyaf nodedig i Wrecsam, lle mae’n parhau i fod yn brif sgoriwr goliau’r clwb erioed. Bu hefyd yn cynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol, gan ennill pum Cap.’ – Cyfieithwyd o ‘Tommy Bamford’, Wikipedia