Jacob Thomas

Mae Jacob Thomas yn enwog am gynrychioli Prydain yn y Gemau Paralympaidd.

Jacob Thomas

• Roedd gan Jacob y cyflwr Duchenne Muscular Dystrophy.
• Roedd e’n ddefnyddiwr cadair olwyn am y rhan fwyaf o’i oes, ond dechreuodd chwarae Boccia, ac enillodd nifer o deitlau rhyngwladol ar lefel BC3.
• 2008: Mai – Daeth yn ail yng Nghystadleuaeth Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, ac enillodd gategori anabledd Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro.
• 2010: Daeth yn Bencampwr Prydain.
• 2012: Enillodd Fedal Efydd yng nghystadleuaeth y parau ym Mhencampwriaethau Ewrop, a cafodd ei ddewis i gynrychioli Prydain yn y Gemau Paralympaidd.
• 2013: Enillodd y Fedal Aur yng Ngemau Myfyrwyr y Byd yn São Paulo, Brasil.
• 2014: Aeth Jacob i Tsieina i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau’r Byd, gan ennill Medal Efydd, a Medal Arian yn y parau.
• 2016: Enillodd Fedal Arian yn y parau ym Mhencampwriaethau Agored y Byd yn Poznań, Gwlad Pwyl.
• 2016: Ymddeol o Boccia.
• 2020: Awst – Bu farw yn heddychlon yn 25 oed.

Man Geni: Arberth, Sir Benfro

Dyddiad Geni: 1995

Dyddiad Marw: Awst 2020

‘Roeddet ti’n un o’r chwaraewyr Boccia gorau ac yn bwysicaf oll, yn ŵr bonheddig go iawn’. – Grigorios Polychronidis, cyfieithwyd o Andy Howell, ‘Welsh paralympian Jacob Thomas dies aged 25’, WalesOnline, 17 Awst 2020 – https://www.walesonline.co.uk/sport/other-sport/welsh-paralympian-jacob-thomas-dies-18780303