Alfred Russel Wallace

Mae Alfred Russel Wallace yn enwog am fod yn naturiaethwr a hyrwyddwr diwygiadau cymdeithasol.

Alfred Russel Wallace

• 1826: Pan oedd yn dair oed symudodd y teulu i Loegr. Gadawodd pan oedd yn 13 oed a symud at ei frawd, John, yn Llundain.
• 1839: Llunio ‘On the best method of conducting the Kington Mechanics’ Institution’ a gyhoeddwyd wedyn yn ‘History of Kington’.
• 1841: Symudodd i Gastell-nedd ym Morgannwg. Dechreuodd Wallace ddysgu Cymraeg.
• 1843: Yn ystod ei gyfnod yng Nghastell-nedd dechreuodd Wallace ymddiddori o ddifrif ym myd natur. Dechreuodd astudio botaneg, fe’i penodwyd yn gyd-guradur yr amgueddfa leol.
• 1847: Cyhoeddodd ei ‘bapur’ gwyddonol cyntaf yn y ‘Zoologist’ – yn sôn ei fod wedi dod o hyd i sbesimen o chwilen brin yn ardal Castell-nedd.
• 1853: Cyhoeddodd ‘Palm Trees of the Amazon and Their Uses’.
• 1854–62: Aeth i’r Dwyrain Pell, i Archipelago Maleia a thra bu yno lluniodd ei ddamcaniaeth esblygiad.
• 1878: Cyfraniad mawr arall Wallace oedd ei waith bioddaearyddol ‘The Geographical Distribution of Animals’.
• 1880: Cyhoeddi ‘Island Life’. Sonnir amdano weithiau fel ‘Tad Biodaearyddiaeth’ ac yn deyrnged iddo yn y maes hwn, cyfeirir o hyd at y ‘Wallace Line’ yn Nwyrain Asia.
• Ar hyd ei oes bu gan Charles Darwin gryn barch at alluoedd Wallace fel naturiaethwr ac ef fu’n bennaf gyfrifol am ddwyn perswâd ar y Llywodraeth i ddyfarnu pensiwn bach i Wallace.
• Roedd Wallace yn credu y dylai Gwyddoniaeth cael ei ddysgu drwy’r Gymraeg.

Man Geni: Brynbuga, Sir Fynwy

Dyddiad Geni: 8 Ionawr 1823

Dyddiad Marw: 1 Tachwedd 1913

‘Roedd Wallace yn naturiaethwr Fictoraidd blaenllaw gyda diddordebau eang, o fioddaearyddiaeth a theori esblygiadol i ysbrydegaeth a gwleidyddiaeth.’ – Cyfieithwyd o ‘Alfred Russel Wallace’, Darwin Correspondence Project, Prifysgol Caergrawnt, https://www.darwinproject.ac.uk/alfred-russel-wallace