
• 1905: Ymunodd â’r Lyceum, clwb cymdeithasol newydd i ferched.
• 1909–10: Cwrdd â Fanny Mowbray Laming, cerddor a siaradwraig gyhoeddus o deulu hanner Ffrengig, a ddaeth yn gymar oes iddi.
• 1914: Roedd hi yn München pan gyhoeddodd Prydain rhyfel yn erbyn yr Almaen.
• 1915: Sefydlodd ‘Le Signal’, swyddfa oedd yn helpu’r rhai oedd yn chwilio am bobl oedd ar goll oherwydd y rhyfel.
• Dyfarnwyd y Médaille de la Reconnaissance Française i Alice am ei gwaith gyda ‘Le Signal’.
• 1917: Sefydlodd gangen Deudraeth o Sefydliad y Merched, y bedwaredd gangen yng Nghymru.
• 1917: Derbyniwyd hi i’r Orsedd fel dramodydd dan yr enw Alys Meirion.
• 1919: Sefydlodd y cylchgrawn ‘Home and Country’, a’r ‘Forum Club’ i fenywod gyda Fanny
• Hi oedd y ferch gyntaf i gael ei hethol i bwyllgorau ysbytai Sain Siôr a’r Brenin Edward yn Llundain.
• 1939: Ei chymar, Fanny Laming, a’i frawd Dr Leonard Williams yn marw.
‘Roedd hi’n ffigwr amlwg ym mywyd cyhoeddus, yn ffigwr allweddol yn natblygiad Sefydliad y Merched, ac yn cael ei hanrhydeddu gan yr Eisteddfod Genedlaethol am ei hysgrifennu’. – ‘Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionydd’, Cyfrol 15 (2006-09), tud. 452.