
• 1911: Dechreuodd weithio fel glöwr.
• 1919: Enillodd ysgoloriaeth Undeb y Glowyr i fynychu’r coleg Llafur yn Llundain am ddwy flynedd, lle dysgodd sut i ddadlau’n effeithiol.
• 1926: Yn ystod streic y glowyr penodwyd ef yn gynrychiolydd ei gangen leol o Undeb y Glowyr.
• 1927: Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Llafur Glyn Ebwy, sedd a gadwodd am weddill ei oes.
• 1939: Gwrthwynebodd y Llywodraeth Geidwadol yn gryf yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
• 1944: Ei ethol yn aelod o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur, yr awdurdod uchaf o fewn y blaid.
• 1945: Y Blaid Lafur yn ennill yr Etholiad Cyffredinol, a phenodwyd ef yn Weinidog Iechyd. Gosododd seiliau’r Wladwriaeth Les.
• 1946: Sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).
• 1951: Ei benodi’n Weinidog Llafur, ond ymddiswyddodd oherwydd anghytundebau, gan gynnwys cynllun i ddechrau codi taliadau o fewn y GIG.
• 1955: Cafodd ei ddiarddel o’r Blaid Lafur am rai misoedd oherwydd ei wrthwynebiad i arfau niwclear.
• 1959: Penodwyd ef yn Ddirprwy Arweinydd y Blaid Lafur.
‘Aneurin Bevan oedd un o weinidogion pwysicaf y llywodraeth Lafur ar ôl y rhyfel a phrif bensaer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.’ – Cyfiweithwyd o ‘Aneurin Bevan (1897 – 1960)’, History, BBC, – https://www.bbc.co.uk/history/historic_figures/bevan_aneurin.shtml