Annie Jane Hughes Griffiths

Arweiniodd Annie Hughes Griffiths ddirprwyaeth Deiseb Heddwch gan fenywod Cymru i America.

Annie Jane Hughes Griffiths

• 1873: Ganwyd Annie Jane Davies yng Nghwrt Mawr, Llangeitho, Ceredigion, y chweched o ddeg o blant i Robert Joseph Davies a’i wraig Frances.
• 1895: Aeth i Lundain i gadw tŷ i’w brodyr John a Walter, oedd yn fyfyrwyr yno.
• 1898: Priododd T. E. Ellis, Aelod Seneddol Rhyddfrydol, Sir Feirionnydd.
• 1899: Bu farw ei gŵr o’r twymyn.
• 1899: Ganed ei mhab Thomas Iorwerth Ellis.
• Roedd hi’n adnabyddus yng Nghymru oherwydd ei chysylltiad â Choleg y Brifysgol, Aberystwyth a’r Llyfrgell Genedlaethol, ac yn Llundain trwy gysylltiadau ei gŵr
• 1916: Priododd y Parchedig Peter Hughes Griffiths, gweinidog Capel Charing Cross, Llundain.
• 1923: Fe’i phenodwyd yn Llywydd Cyngor Cenedlaethol Cymru o Undeb Cynghrair y Cenhedloedd.
• 1924: Arweiniodd ddirprwyaeth Deiseb Heddwch gan fenywod Cymru i America.
• 1942: Bu farw Annie Hughes Griffiths yn Neuadd Wen, Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth.

Man Geni: Llangeitho, Ceredigion

Dyddiad Geni: 5 Ebrill 1873

Dyddiad Marw: 7 Hydref 1942