
• 1823: Priododd Benjamin Hall gan uno stadau cyfagos Llanofer ac Aber-carn.
• Cafodd diddordeb Arglwyddes Llanofer yn yr iaith Gymraeg a thraddodiadau Cymru ei hybu’n gynnar.
• Ffafriodd gyflogi Cymry Cymraeg fel gweision, mynnodd wasanaethau Cymraeg yn eglwys Llanofer, a sicrhaodd fod y Gymraeg yn cael ei dysgu yn Ysgol Llanofer.
• 1834: Ymunodd â’r Cymreigyddion.
• Mae cyfraniadau mwyaf arhosol Arglwyddes Llanofer yn gysylltiedig â’r eisteddfodau a gynhaliwyd gan Gymdeithas Cymreigyddion y Fenni rhwng 1834 a 1853.
• Yn Eisteddfodau’r Fenni hefyd ceir dechreuadau’r mudiad Pan-geltaidd yng Nghymru. Sefydlwyd y Welsh Manuscripts Society gan aelodau Cymreigyddion y Fenni.
• Daeth Llys Llanofer, plasty Tuduraidd newydd y teulu, yn ganolbwynt diwylliannol Cymraeg yn sir Fynwy a thu hwnt.
• Dros sawl degawd, rhoddwyd ysgoloriaethau i nifer o ddisgyblion i’w galluogi i ddysgu chwarae’r delyn yn Llanofer.
• 1834: Awst – Deilliodd enw barddol Arglwyddes Llanofer, ‘Gwenynen Gwent’, a’i dylanwad parhaol dros ddyluniad y wisg Gymreig, o Eisteddfod Frenhinol a Gŵyl Gerddorol Dyfed a Mynwy, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.
• Gwisgai Arglwyddes Llanofer y wisg Gymreig hon bob dydd Sul ac ar achlysuron cyhoeddus, roedd ei gweision yn gorfod ei gwisgo, a cheisiodd ei hybu ymhlith bonedd ei chylch.
• 1844: Enillodd ei chasgliadau gystadlaethau Eisteddfodau’r Fenni. Cyhoeddwyd hwy fel ‘Ancient National Airs of Gwent and Morgannwg’.
• 1857: Augusta yn prynu casgliad llawysgrifau Edward Williams (Iolo Morganwg) er mwyn eu diogelu i’r genedl.
• 1867: Ei gwr Benjamin yn marw.
‘Arglwyddes Llanofer oedd un o gefnogwyr pennaf diwylliant Cymru yn Sir Fynwy. O ddawnsio i alawon gwerin, gwisgoedd traddodiadol i barhad yr iaith – roedd ystod ei diddordebau yn eang.’ – ‘Arglwyddes Llanofer / Augusta Hall / Gwenynen Gwent (1802-1896)’, Amgueddfa Cymru, Casgliad y Werin Cymru – https://www.casgliadywerin.cymru/items/511156