Augustus Edwin John

Mae Augustus John yn enwog am fod yn arlunydd blaenllaw.

Augustus John

• 1894: Mynd i Lundain i astudio celf am bedair blynedd yn Ysgol Gelf Slade.
• 1901: Priodi Ida Nettleship.
• 1901: Penodwyd ef i ddysgu arlunio ym Mhrifysgol Lerpwl.
• 1902: Ei fab David yn cael ei eni. Cyfarfu â Dorothy McNeill (Dorelia), a hi fu ei brif fodel a’i ysbrydoliaeth am weddill ei oes.
• 1907: Ida ei wraig yn marw wrth roi genedigaeth i’w pumed plentyn.
• Daeth Dorelia yn wraig i Augustus ymhob dim ond enw.
• 1911: Bu’r teulu’n byw yn Alderney Manor, Dorset.
• 1927: Symudodd y teulu i fyw yn Fryern Court, Hampshire, er y treuliai Augustus lawer o amser yn ei stiwdio yn Llundain.
• 1928: Cafodd ei ethol yn aelod cyflawn o’r Academi Frenhinol.
• 1938: Ymddiswyddodd o’r Academi Frenhinol.
• 1940: Cafodd ei ail-ethol yn aelod o’r Academi Frenhinol.
• 1942: Derbyniodd yr O.M. (Order of Merit) am ei wasanaeth i gelfyddyd.

Man Geni: Hwlffordd, Sir Benfro

Dyddiad Geni: 4 Ionawr 1878

Dyddiad Marw: 31 Hydref 1961

‘Roedd yn gysylltiedig â’r New English Art Club a’r Camden Town Group ond parhaodd i raddau helaeth yn annibynnol ar dueddiadau a symudiadau artistig.’ – Cyfieithwyd o ‘Augustus John (1878-1961), Painter’, National Portrait Gallery – https://www.npg.org.uk/collections/search/person/mp02437/augustus-edwin-john