Amy Roberta (‘Berta’) Ruck

Mae Berta Ruck yn enwog am fod yn nofelydd.

Berta Ruck 1

• 1880: Yn ddwy oed, a hithau’n rhugl yn Saesneg ac Hindustani, anfonwyd Berta i fyw gyda’i mhamgu, Cymraes a oedd berchen ar ystâd yn ardal Aberdyfi yn Ne Gwynedd.
• Cafodd Berta addysg adref i ddechrau, ond ar ôl tymor mewn ysgol breswyl yn yr Almaen fe’i hanfonwyd i Ysgol St Winifred’s, ym Mangor.
• Yn dilyn cyfnod fel ‘au pair’ yn yr Almaen, symudodd i Lundain i astudio yn ysgol gelf Lambeth, cyn ennill ysgoloriaeth i Ysgol Gelf Slade.
• 1904: Symudodd ymlaen i’r academi Colarossi ym Mharis. Dechreuodd Berta gyfrannu i gylchgronau fel ‘The Idler’.
• 1905: Dechreuodd straeon byrion a chyfresi ganddi ymddangos yn ‘Home Chat’ a chyfnodolion eraill.
• 1909: Priodi’r nofelydd George Oliver Onions.
• 1914: Cyhoeddi ‘His Official Fiancée’, o dan yr enw ‘Mrs. Oliver Onions’.
• 1916: Cyhoeddi ‘Miss Million’s Maid’ o dan yr enw ‘Berta Ruck’.
• 1935: Cyhoeddi ei llyfr ‘A Storyteller tells the Truth’.
• 1937: Pan oedd Saunders Lewis, Lewis Valentine a D. J. Williams yn sefyll eu prawf yn yr Old Bailey yn achos llosgi Penyberth, buodd yn cymryd nodiadau a thynnu lluniau o’r diffynyddion.
• 1939: Symud o Lundain i fyw yn Aberdyfi ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd.
• 1967: Cyhoeddi ‘Shopping for a Husband’.

Man Geni: Punjab, yr India

Dyddiad Geni: 2 Awst 1878

Dyddiad Marw: 11 Awst 1978

‘Roedd Amy Roberta (‘Berta’) Ruck (1878-1978) yn nofelydd rhamantaidd poblogaidd a thoreithiog. Ysgrifennodd nifer fawr o nofelau, storïau byrion, a straeon cyfres, yn ogystal â nifer o weithiau hunangofiannol. Cafodd hefyd yrfa
gynharach fel arlunydd a darlunydd.’ – ‘Archif Berta Ruck’, Llyfrgell Genedlaethol Cymru – https://www.llyfrgell.cymru/catalogau-chwilio/am-ein-casgliadau/archifau/archifau-llenorion-cymreig/berta-ruck-archive