Elizabeth (‘Betsi’) Cadwaladr

Mae Betsi Cadwaladr yn enwog am ei gwaith fel nyrs yn Balaclava, yn ystod Rhyfel y Crimea.

Betsi Cadwaladr

• 1801: Gweithio fel morwyn yn Lerpwl.
• 1815: Teithio o gwmpas gwledydd Ewrop gyda theulu un o’i chyflogwyr.
• 1816: Symud i weithio fel morwyn yn Llundain.
• 1820: Gweithio fel morwyn a nyrs i wragedd capteniaid llongau masnachol, gan ymweld â De Affrica, De America, Awstralia, Seland Newydd, Singapore, Ynysoedd y Môr Tawel, Gwlad Groeg, Twrci a’r Aifft.
• 1854: Cael ei hysbrydoli gan adroddiad papur newydd am Ryfel y Crimea, a phenderfynu mynd yno i helpu.
• 1854: Rhagfyr – Gadael Llundain am y Crimea.
• 1855: Gweithio yn Scutari, Twrci am 10 diwrnod gyda Florence Nightingale.
• 1855: Bu’n gweithio am saith mis mewn ysbyty yn Balaclava ar reng flaen y rhyfel.
• 1855: Tachwedd – Dychwelodd i Brydain yn sâl o ganlyniad i orweithio a chyflwr brwnt yr ysbyty.
• 1857: Oherwydd ei thlodi, cyhoeddodd ei hunangofiant ‘The Autobiography of Elizabeth Davis, a Balaclava Nurse, Daughter of Dafydd Cadwaladyr’ er mwyn codi arian i’w chynnal.
• 1860: Marw yng nghartref ei chwaer, a’i chladdu mewn bedd tlotyn yn mynwent Abney Park.
• 2012: Daethpwyd o hyd i leoliad ei bedd, a gosodwyd maen coffa ar y safle gan Goleg Brenhinol y Nyrsys

Man Geni: Penrhiw, Gwynedd

Dyddiad Geni: 24 Mai 1789

Dyddiad Marw: 17 Gorffennaf 1860

‘O ganlyniad i wrthdaro chwerw â Florence Nightingale, symudodd Betsi i ysbyty’r fyddin yn Balaclava. Yn ei geiriau ei hun, roedd ganddi’r egni, y nerth a’r stumog cryf i weithio’n effeithlon yn y ward yno.’ – Gwyneth Tyson Roberts, Y Bywgraffiadur Cymreig