Caradog Pritchard

Mae Caradog Prichard yn enwog fel bardd a llenor. Ef yw awdur y nofel 'Un Nos Ola Leuad' gyhoeddwyd yn 1961. Mae’r nofel yn darlunio plentyndod yr awdur yn Nyffryn Ogwen ar ddechrau'r 20fed ganrif, ac yn crybwyll pethau a ddigwyddodd ym mywyd Caradog Prichard ei hun. 

Caradog Pritchard

• 1905: Tad Caradog Prichard yn cael ei ladd mewn damwain yn y chwarel.
• 1922: Gadael ysgol i fynd i weithio fel is-olygydd ‘Yr Herald Cymraeg’.
• 1923: Ei fam yn gorfod mynd i ysbyty meddwl Dinbych.
• 1927: Ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caergybi. Cychwyn gweithio ar y ‘Western Mail’.
• 1928: Ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Treorci.
• 1929: Ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl.
• 1934: Symud i Lundain i weithio fel newyddiadurwr.
• 1961: Cyhoeddi ‘Un Nos Ola Leuad’.
• 1973: Cyhoeddi hunangofiant, ‘Afal Drwg Adda’.
• 1980: Marw, a chael ei gladdu ym mynwent Eglwys Bethesda.
• 1991: Rhyddhau ffilm o nofel ‘Un Nos Ola Leuad’.

Man Geni: Bethesda, Gwynedd

Dyddiad Geni: 3 Tachwedd 1904

Dyddiad Marw: 25 Chwefror 1980 

‘Efallai inni orddefnyddio a dibrisio’r term ‘clasur’ wrth drafod llyfrau, ond ddim yn yr achos hwn. Mae’n glasur yng ngwir ystyr y term, yn llyfr sy’n dyheu i gael ei ddarllen a’i ail-ddarllen, a’i rannu â chenedlaethau i ddod. Tra bod yr iaith Gymraeg yn parhau bydd Un Nos Ola Leuad yn siŵr o hudo a chyfareddu darllenwyr.’ – Jon Gower am ‘Un Nos Ola Leuad’