Catrin o Ferain

Mae Catrin o Ferain yn enwog am ei bod yn dod o deuluoedd Brenhinol a Bonheddig. Mi briododd bedair gwaith ac mae’n cael ei galw yn 'Fam Cymru'.

Catrin o Ferain
  • 1557: Chwefror 11eg – Priodi ei gŵr cyntaf sef John Salusbury.
  • 1564: Thomas ei mab yn cael ei eni.
  • 1566: Colli ei gŵr cyntaf.
  • 1567: Catrin yn priodi Richard Clough. Ar ôl cyfnod byr yn byw yn Antwerp, symudodd y ddau i fyw yn Sbaen.
  • 1568: Geni ei merch Ann Clough.
  • 1569: Symud i fyw yn Hamburg. Geni ei hail ferch, Mary.
  • 1570: Richard ei hail-ŵr yn marw.
  • 1573: Erbyn Ionawr roedd Catrin wedi priodi am y trydydd tro – i Maurice Wynn, Gwydir.
  • 1574: Trefnwyd priodas rhwng ei mab, Thomas Salusbury, â Margaret, merch Maurice Wynn o'i wraig gyntaf.
  • 1580: Maurice Wynn yn marw.
  • 1583: Priodi ei phedwerydd gŵr sef Edward Thewall.

Man Geni: Sir Ddinbych

Dyddiad Geni: 1534/5

Dyddiad Marw: 27 Awst 1591

‘Catrin wych, wawr ddistrych wedd, Cain ei llun, cannwyll Wynedd.’ – William Cynwal in R. Cyril Hughes Gomer, ‘Catrin o Ferain’ (1975), tud. 2.