Charlotte Guest

Y cyntaf i gyfieithu’r 'Mabinogi' i’r Saesneg. Hi ddyfeisiodd y teitl 'The Mabinogion'. Roedd hi’n gyfieithydd, ieithydd, entrepreneur, awdur a chasglwr celf.  

Charlotte Guest

• 1835:  Priodi Syr Josiah John Guest, un o feistri diwydiannol mwyaf De Cymru a pherchennog gweithfeydd haearn enwog Dowlais.
• 1838: Dechrau cyfieithu’r ‘Mabinogi’ i’r Saesneg, gyda chymorth y bardd a’r hanesydd John Jones a Thomas Price.
• 1846: Cyhoeddi’r ‘Mabinogi’ mewn tair cyfrol.
• 1852: Marwolaeth Syr John, a Charlotte yn dod yn gyfrifol am y gweithfeydd haearn.  
• 1853: Haf – Steic yn y gweithfeydd, ac roedd angen delio gyda’r gweithwyr a’r meistri haearn eraill nad oeddent yn arfer delio gyda menyw bwerus .
• 1855: Ebrill – Dechrau un o’r casgliadau llestri Tsieina Seisnig 18fed ganrif gorau yn y byd.
• 1877: Ail-gyhoeddi’r ‘Mabinogi’ dan un teitl – teitl sydd nawr yn enwog: ‘The Mabinogion’.
• 1895: 15 Ionawr – Bu farw yn Canford Manor, Swydd Dorset.

Man Geni: Uffington, Swydd Lincoln, Lloegr

Dyddiad Geni: 19 Mai 1812

Dyddiad Marw: 15 Ionawr 1895  

‘Roedd yn wraig i un o feistri haearn Cymru a pherchennog Cwmni Haearn Dowlais, a thra bu’n byw yng Nghymru roedd yn weithgar iawn yn y gymuned. Roedd Charlotte yn arloesi o ran sefydlu ysgolion i’r gweithwyr, gosod pibellau dŵr i’w bythynnod a chynnal trafodaethau yn ystod streiciau. Roedd yn ieithydd hefyd, a daeth yn amlwg ym maes astudio llenyddiaeth Gymraeg y Dadeni.’ – ‘Charlotte Guest (Formerly Bertie Later Schreiber)’, 100+Menwyod Cymreig