
• 1846: Adeiladodd sylfeini pont dros afon Hafren yn Llandinam a’r ffordd tuag at y bont.
• 1855: Adeiladodd rhan gyntaf y rheilffordd rhwng Llanidloes a’r Drenewydd.
• 1859: Agorwyd y rheilffordd rhwng Llanidloes a’r Drenewydd.
• 1862: Aeth David Davies gyda Benjamin Piercy i Sardinia, pan wahoddwyd y peiriannydd i gynghori’r cwmni a oedd wedi cael yr hawl i adeiladu rheilffyrdd ar yr ynys honno.
• 1864: Prydlesodd David Davies dir yn rhan uchaf Cwm Rhondda Fawr a thorrodd byllau glo’r Parc a’r Maendy.
• 1867: Ffurfiwyd cwmni preifat ‘David Davies & Co’.
• Torrwyd pyllau eraill gan y cwmni Ocean Merthyr, dan gadeiryddiaeth David Davies, sef Dare, Western ac Eastern, Garw, a Lady Windsor.
• 1874: Cafodd ei ddewis yn Aelod Seneddol Sir Aberteifi.
• 1875: Roedd yn un o Lywodraethwyr cynharaf Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, cafodd ei ethol yn Drysorydd a bu’n dal y swydd honno hyd 1887.
• 1887: Roedd cynnyrch y pyllau wedi cynyddu cymaint nes y penderfynwyd ffurfio cwmni newydd, sef yr ‘Ocean Coal Company Ltd’.
• 1886: Collodd ei sedd ar ôl anghytuno â Mr Gladstone ar fater ymreolaeth i Iwerddon.
• 1889: Ar ôl ymgyrchu am flynyddoedd am ddoc newydd yn y Barri a chael rheilffordd yno o’r Rhondda, cwblhaodd y prosiect yma.
‘Roedd twf y diwydiant glo a’r pyllau glo yn ystod y 1880au yn enfawr a chafodd David Davies ei hun ar y rheng flaen yn ei rôl fel gwleidydd a diwydiannwr. Roedd Dociau Bute, Caerdydd yn gweithredu ar ei eithaf, roedd y rheilffordd yn ei chael hi’n anodd ymdopi â thraffig y diwydiant, ond dyma ble gwelodd Davies gyfle.’ – ‘David Davies, Teicŵn Cyntaf Cymru’, Y Barri – https://www.barry.cymru/cy/history/david-davies-teicwn-cyntaf-cymru/