David John Williams

Mae D. J. Williams yn enwog am fod yn lenor ac yn un o’r tri a garcharwyd am losgi Ysgol Fomio Penyberth. 

D J Williams

• 1902–06: Bu’n löwr yn Fferndale.
• 1908–10: Bu’n ddisgybl athro yn ysgol Llandrillo, Edeyrnion.
• 1911: Aeth i Goleg y Brifysgol yn Aberystwyth.
• 1916: Wedi graddio ac ennill Ysgoloriaeth Meyricke aeth i Goleg Iesu, Rhydychen.
• 1918: Graddiodd o Goleg Iesu, Rhydychen.
• 1925: Priododd a Siân Evans a gwnaethon nhw ymgartrefi yn Abergwaun. Yr oedd yn un o sefydlwyr Plaid Cymru.
• 1929: Cyhoeddodd ‘A. E. a Chymru’.
• 1936–37: Gyda Saunders Lewis a Lewis Valentine bu’n gyfrifol am losgi Ysgol Fomio ym Mhenyberth ger Pwllheli, a threuliodd y tri ohonynt naw mis yng ngharchar Wormwood Scrubs.
• Cyhoeddodd nifer o storïau yn portreadu bywyd cefn gwlad yn Sir Gaerfyrddin, yn cynnwys ‘Storïau’r Tir Glas’ (1936), ’Storïau’r Tir Coch’ (1941), ’Storiau’r Tir Du’ (1949), ’Hen dy ffarm’ (1953) ac  ‘Yn chwech ar hugain oed’ (1959).
• 1963: Etholwyd ef yn Llywydd yr Academi Gymreig.
• 1966: Detholiad o ‘Storïau’r Tir’ yn cael ei gyhoeddi.
• 1968: Cyhoeddi’r pamffled ‘Codi’r faner’.

Man Geni: Llansawel, Sir Gaerfyrddin 

Dyddiad Geni: 26 Mehefin 1885 

Dyddiad Marw: 4 Ionawr 1970 

‘Llenor bugeiliol ydoedd yn ei hanfod, llenor y “gweld cofus”. Yn ei ganol oed a’i henaint cynnar y lluniodd y cyfrolau a fydd o werth arhosol. Fel ei arwr ,William Llewelyn Williams ymserchodd yn llwyr ym mywyd gwledig “Shir Gâr”, ond ni fodlonodd ar sentimenta. Gwelodd y Gymru a oedd iddo ef yn werth byw a marw drosti yn nrych ei “filltir sgwâr”.’ – Hywel Teifi Edwards, Y Bywgraffiadur Cymreig.