David Lloyd George

Mae David Lloyd George yn enwog am fod y Cymro cyntaf i fod yn Brif Weinidog Prydain, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. 

David Lloyd George
  • 1864: Tad David Lloyd George yn marw. Symudodd ei fam a'r plant i fyw gyda'i brawd Richard Lloyd yn Llanystumdwy.
  • 1884: Cafodd anrhydedd yn arholiadau’r Gyfraith.
  • 1888: Priododd Margaret Owen, a chawsant 5 o blant.
  • 1890: Fel ymgeisydd seneddol Rhyddfrydol, enillodd etholiad Bwrdeistrefi Caernarfon.
  • 1908: David Lloyd George yn cael ei benodi yn Ganghellor y Trysorlys.
  • 1915: Cael ei benodi, fel rhan o’r llywodraeth unedig gyntaf, yn Weinidog Arfau, ac ef oedd dilynydd yr Arglwydd Kitchener fel Ysgrifennydd Rhyfel.
  • 1916: Daeth Lloyd George yn Brif Weinidog. Bu’n gyfrifol am greu unoliaeth ymhlith arweinwyr lluoedd arfog y cynghreiriaid.
  • 1921: Llwyddodd i gael y Cytundeb Gwyddelig wedi’i arwyddo ym mis Rhagfyr.
  • 1922: Ymddiswyddodd fel Prif Weinidog.
  • 1936: Ymwelodd â'r Almaen, a chwrdd â Hitler.
  • Parhaodd i fod yn aelod o Dŷ'r Cyffredin hyd Ionawr 1945.

Man Geni: Manceinion, Lloegr 

Dyddiad Geni: 17 Ionawr 1863 

Dyddiad Marw: 26 Mawrth 1945 

‘Mae David Lloyd George yn un o ffigyrau mwyaf lliwgar hanes gwleidyddol modern Prydain.’ – Cyfieithwyd o Chris Wigley, ‘Lloyd George’ (Blackwell 1992), tud. 1