
• 1925: Symudodd o Drecori i Portsmouth.
• 1939: Aeth i’r Ysgol yn Brockenhurst. Aeth ymlaen i Goleg Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Llundain.
• 1943: Enillodd radd BSc ag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg.
• 1947: Enillodd radd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg.
• Tra’n gweithio yn y Labordy Ffisegol Cenedlaethol, derbyniodd gymhorthdal i gynllunio a defnyddio cyfrifiadur electronig arbrofol ACE.
• 1954: Aeth i astudio yn Sefydliad Technolegol Massachusetts yn Unol Daleithiau America, a bu’n ymweld ag India ar ran y Cenhedloedd Unedig.
• 1955: Dychwelodd i’r Labordy Ffisegol Cenedlaethol (NPL) i gynllunio a gwneud cyfrifiaduron cyflym iawn.
• 1960au: Bu’n gweithio ar ddatblygu rhwydwaith o gyfrifiaduron a oedd yn trosglwyddo gwybodaeth yn gyflym iawn mewn cyfres o negeseuon byr.
• 1963: Cyhoeddi ‘Digital Techniques’ gyda Derek Barber.
• 1975: Cafodd ei ethol yn Gymrodor Hyglod Cymdeithas Gyfrifiadurol Prydain.
• 1984: Ymddeolodd o’r Gwasanaeth Sifil gwyddonol.
• 1985: Derbyniodd y John von Neumann Award, Budapest.
‘Mae datblygiad hollbwysig Donald Davies o newid pecynnau, sy’n galluogi cyfnewid gwybodaeth yn effeithlon rhwng cyfrifiaduron, yn gwneud cyfathrebiadau cyfrifiadurol modern yn ymarferol ac yn effeithiol.’ – Cyfieithwyd o ‘Donald Watts Davies’, National Inventors’ Hall of Fame – https://www.invent.org/inductees/donald-watts-davies