
• 1904: Teulu Dorothy yn symud i Dulwich yn Ne Llundain.
• 1910: Rhieni Dorothy yn symud nôl i India, arhosodd hi yn Lloegr, dan warchodaeth bargyfreithiwr o Iwerddon.
• 1912: Dorothy yn cofrestru yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Yn ei chyfnod yn Aberystwyth, bu’n Drysorydd y Gymdeithas Lenyddol a Dadlau, ac yn aelod o Fwrdd Golygyddol cylchgrawn y myfyrwyr, ‘The Dragon’.
• 1914: Enillodd Dorothy Gadair Farddol Eisteddfod y Coleg am ei cherdd ‘Owain Lawgoch’. Cafodd ei llwyddiant gyhoeddusrwydd sylweddol yn y wasg leol a chenedlaethol.
• 1914: Cyhoeddi’r gerdd ‘Noon’.
• 1916: Graddio gyda BA mewn Ffrangeg o Brifysgol Aberystwyth. Aeth i Goleg Prifysgol Llundain.
• 1917: Y ferch gyntaf i ennill gradd fewnol yn y Gyfraith o Gyfadran y Cyfreithiau, ddwy flwyddyn cyn i fenywod gael yr hawl i weithio fel cyfreithwyr.
• 1919: Roedd Dorothy yn cefnogi’r mudiad dros bleidlais i ferched. Arwyddodd ‘Anerchiad Rhyddfraint Merched India’ ochr yn ochr â’i mham.
• 1919: Cyhoeddi’r gerdd ‘Menelaus Lamenting’.
• 1936: Dorothy yn symud i Ffrainc tan ei marwolaeth.
‘Yn sicr, cofleidiodd Dorothy ddiwylliant cenedlaethol Cymru, a chyfrannodd yn sylweddol ato yn ystod ei chyfnod yn Aberystwyth.’ – Beth Jenkins, Prifysgol Essex, cyfieithwyd o ‘”She is beautiful but she is Indian”: The student who became a Welsh bard at 19’, BBC News.