
• 1772: Cyhoeddodd farwnad i’w athro, Lewis Hopkin o dan y teitl, ‘Dagrau yr Awen’.
• 1773: Aeth ef a’i frodyr i Lundain.
• 1777: Dychwelodd i Fryste, ac wedi hynny i Forgannwg.
• 1783: Ymsefydlodd yn Llandaf.
• 1787: Aeth i’r carchar yng Nghaerdydd cyn dychwelyd i Drefflemin.
• 1790: Defnyddio’r enw barddol Iolo Morganwg.
• 1791–95: Aeth i Lundain eto, a dechrau egluro athrawiaethau barddas, a chynnal gorseddau derwyddol ar Fryn y Briallu cyn dychwelyd i Drefflemin yn 1795.
• 1794: Cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth Saesneg sef ‘Poems’ a ‘Lyric and Pastoral’.
• 1796: Cafodd waith o dan y Bwrdd Amaethyddiaeth i ddisgrifio cyflwr y tir a’r ffermydd ym Morgannwg a Sir Gaerfyrddin.
• Fe’i dewiswyd yn un o olygyddion ‘The Myvyrian Archaiology of Wales’ ac yn 1799, bu ar daith trwy Ogledd Cymru yn casglu defnyddiau.
• 1803: Cyhoeddi ‘Rheolau a Threfniadau’.
• 1819: Pan gynhaliodd Cymdeithas Dyfed Eisteddfod yng Nghaerfyrddin, llwyddodd i wneud yr orsedd yn rhan hanfodol o’r gweithrediadau.
‘Synhwyrodd Iolo yr effaith a gâi hynny ar y gymdeithas, ac aeth ati, fel gwir hynafiaethydd, i gofnodi cymaint ag y medrai, gan gynnwys alawon gwerin.’ – Alawon Gwerin, ‘Iolo Morganwg’, gol. Leila Salisbury (Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru 2012), tud. 15