Eirwen Meiriona Gwynn

Mae Eirwen Meiriona Gwynn yn enwog am fod y ferch gyntaf i dderbyn PhD mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.

Eirwen Meiriona Gwynn

• 1927: Ei theulu yn symud i Lŷn.
• 1934: Eirwen yn ennill Ysgoloriaeth i astudio Ffiseg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor.
• 1938: Ar ôl graddio arhosodd Eirwen ym Mangor i ymchwilio ymddygiad Pelydr X.
• 1942: Eirwen oedd y ferch gyntaf i dderbyn PhD mewn Ffiseg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor.
• 1943–50: Yn ystod y cyfnod yma daeth sgil effaith gwaith ymchwil Eirwen ar Belydr X i’r amlwg, pan dynnwyd tyfiant oddi ar ei hofari.
• 1970: Enillodd wobr y BBC mewn cystadleuaeth ysgrifennu drama.
• 1987: Cyhoeddi ‘Bwyta i Fyw’.
• 1985: Cael eu hanrhydeddu yn Aelod Derwydd o Orsedd y Beirdd.
• 1999: Cyhoeddi ei hunangofiant ‘Ni’n Dau: Hanes Dau Gariad’.
• 2002: Derbyn Cymrodoriaeth Prifysgol Bangor.
• 2006: Derbyn Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol, a bu’n Llywydd y Gymdeithas Wyddonol hyd ei marwolaeth.

Man Geni: Lerpwl, Lloegr

Dyddiad Geni: 1 Rhagfyr 1916

Dyddiad Marw: 26 Ionawr 2007

‘Hi oedd y ferch gyntaf ym Mangor i ennill doethuriaeth mewn Ffiseg. Roedd hi’n gyfathrebwr diflino a diffuant.’ – Eisteddfod Genedlaethol Cymru.