Eldra Mary Jarman

Mae Eldra Mary Jarman yn enwog am fod yn delynores ac awdur.

Llun o Eldra yn canu'r delyn

• Roedd ei dau riant yn ddisgynyddion Roma.
• 1921: Pan oedd yn bedair oed, symudodd y teulu i dref Bethesda.
• Gadawodd yr ysgol pan oedd hi tua tair ar ddeg oed, a daeth canu’r delyn yn bwysig iddi.
• Dysgodd Eldra drwy wrando ar ei thad, heb ddefnyddio cerddoriaeth ysgrifenedig o gwbl.
• 1931: Daeth yn ffrind i nifer o delynorion enwog fel Nansi Richards ac Edith Evans, a bu’n perfformio gyda nhw i gynulleidfaoedd bach.
• 1939: Pan ddaeth y rhyfel, cynigiodd Eldra ei gwasanaeth i Fyddin Tir y Menywod.
• Dysgodd Eldra Gymraeg gydag Alfred Owen Hughes Jarman, tiwtor yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, pan ddechreuodd y ddau ganlyn.
• Ymchwiliodd i hanes y Roma yng Nghymru, ac ysgrifennodd yn helaeth am eu traddodiadau.
• 1979: Cyhoeddi ‘Y Sipsiwn Cymreig’.
• 1989: Cyhoeddi ‘Y Gof a’r Diafol’.
• 1991: Cyhoeddwyd fersiwn Saesneg o ‘Y Sipsiwn Cymreig’ o dan y teitl ‘The Welsh Gypsies: Children of Abram Wood’, a chyhoeddwyd ‘Storïau’r Sipsiwn i Blant’.
• 2001: Flwyddyn wedi ei marwolaeth, S4C yn darlledu’r ffilm ‘Eldra’.

Man Geni: Aberystwyth, Ceredigion

Dyddiad Geni: 4 Medi 1917

Dyddiad Marw: 24 Medi 2000

‘Yr olaf o delynorion Sipsi go iawn Cymru.’ – Robin Huw Bowen, Y Bywgraffiadur Cymreig