
- 1263: Yn bump oed, dyweddïwyd Eleanor â Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Gwynedd.
- 1265: Ei thad Simon de Montfort yn marw ym Mrwydr Evesham.
- 1274: Edward I yn amddiffyn y dynion a gynllwyniodd i ladd Llywelyn, gan gynnwys ei frawd iau, Dafydd.
- 1275: Eleanor a Llywelyn yn priodi.
- Herwgipiwyd Eleanor gan ddynion y brenin a’i carcharu, yr hoelen olaf yn y gwrthdaro hir rhwng Tywysog Cymru a Brenin Lloegr.
- 1276: Gofynnodd Llywelyn droeon i'r Brenin ryddhau ei 'wraig'. Gwrthododd y Brenin ac ym mis Tachwedd 1276 cyhoeddodd fod Llywelyn, Tywysog Cymru, yn wrthryfelwr.
- 1277: Rhoddodd Llywelyn wybod i'r Pab am garchariad Eleanor.
- 1278: Cafodd Eleanor rhyddhau.
- 1278: Naw mis ar ôl rhyddhau Eleanor priododd Llywelyn ap Gruffudd yn swyddogol yng Nghadeirlan Caerwrangon, ym mhresenoldeb Brenin a Brenhines Lloegr.
- Bu Eleanor farw wrth roi genedigaeth i’w merch Gwenllian, a anfonwyd i briordy Sempringham gan Edward ar ôl marwolaeth ei thad, Llywelyn, yn 1282.
‘Mae’r dystiolaeth ddogfennol a oroesodd am Eleanor de Montfort fel gwraig frenhinol yn y Gymru frodorol yn tystio ei bod yn unigryw o’i chymharu ag unrhyw un o’i rhagflaenwyr neu gyfoeswyr. Dengys ei acta ei gallu i drin ei pherthynas â brenin Lloegr er budd gwleidyddol.’ – Danna R. Messer, Y Bywgraffiadur Cymreig