Elizabeth Amy Dillwyn

Nofelydd Radical, Ymgyrchydd Ffeministaidd a Diwydiannwr Cynnar. Ysgrifennodd Elizabeth Amy Dillwyn rai o’r nofelau lesbiaidd cyntaf i fod mewn print.

Elizabeth Amy Dillwyn scaled

• 1863: Cafodd ei chyflwyno i gymdeithas mewn Derbyniad Brenhinol.
• Cariad ei harddegau a’i chyfeilles gyson trwy gydol ei hugeiniau oedd Olive Talbot o Fargam a Penrice.
• Cyfyngwyd ar ei symudiadau gan afiechyd yn ei thridegau a’i phedwardegau, a rheoli fferm y plas, a cyhoeddi nifer o straeon a cherddi.
• 1880: Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf ‘The Rebecca Rioter: A Story of Killay Life’.
• 1892: Bu farw ei thad, gan adael Amy y cyfrifoldeb o reoli gweithlu o 300 o bobl.
• Cafodd Amy ei hethol i fod yn aelod o’r Bwrdd Iechyd a’r Bwrdd Addysg lleol. Roedd hyn mewn cyfnod pan oedd ethol menywod yn beth anghyffredin.
• 1905: Arweiniodd daith i Algeria lle bu’n chwilio am ffynhonnell calamein (mwyn sinc) o ansawdd uchel.
• Dysgodd ei nai a’i hetifedd, Rice Nichol, am gymhlethdodau trwyddedau allforio a chrefft bargeinio.
• Roedd Amy Dillwyn yn gymeriad lliwgar, a daeth yn adnabyddus am ei barn ddi-flewyn-ar-dafod, ei gwisg ecsentrig a’i hoffter o ysmygu sigârs.

Man Geni: Abertawe, Dinas a Sir Abertawe

Dyddiad Geni: 16 Mai 1845

Dyddiad Marw: 13 Rhagfyr 1935

‘Roedd Amy Dillwyn yn arloeswr. Dyna, yn wir, oedd ei llysenw ymhlith ffrindiau: “The Pioneer”. Yn llenor, ymgyrchydd
ffeministaidd a diwydiannwr llwyddiannus (peth prin iawn i fenyw yn y 1890au), mi fanteisiodd i’r eithaf ar ei llwyfan
cyhoeddus i eiriol dros hawliau menywod.’ – Kirsty Bohata