Elizabeth Anne Howe

Mae Liz Howe yn enwog am fod yn ecolegydd blaenllaw a fu’n cyfrannu at fesurau cadwraethol yng Nghymru.

Elizabeth Anne Howe scaled
  • 1978–81: Aeth Liz i Goleg y Frenhines Elizabeth, Prifysgol Llundain, lle'r astudiodd ffisioleg.
  • 1981–85: Gwnaeth ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor.
  • 1989: Priododd Mike Howe, a chydweithio gydag ef ar brosiect gan Sŵ Jersey ar grwbanod Angonoka ym Madagascar.
  • 1986–91: Gweithiodd am bum mlynedd i'r Cyngor Cadwraeth Natur ym Mangor.
  • 1987: Am ddeg blwyddyn, arweiniodd Liz y timau arolygu a fapiodd lystyfiant ar draws tirweddau iseldir Cymru.
  • 1991: Fe'i penodwyd yn un o’r arweinyddion pan ffurfiwyd Cyngor Cefn Gwlad Cymru, ac fel rhan o Gyfoeth Naturiol Cymru tan ei farwolaeth.
  • 1992: Cynghorodd Liz ar fesurau cadwraeth yng nghynllun amgylchedd amaeth cyntaf Cymru, a weithredwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.
  • 2010: Roedd Liz yn gyd-awdur y gyfrol glodfawr 'Habitats of Wales: A Comprehensive Field Survey, 1979-1997' a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru.

Man Geni: Birmingham, Lloegr

Dyddiad Geni: 27 Hydref 1959

Dyddiad Marw: 31 Mawrth 2019

‘Yn ei gwaith bu’n rheoli ac yn cefnogi tîm sylweddol o arbenigwyr bywyd gwyllt am flynyddoedd, yn gyntaf i Gyngor Cefn Gwlad Cymru ac yn fwy diweddar i Cyfoeth Naturiol Cymru. Roedd ei ffordd o weithio bob amser yn siriol, yn amyneddgar ac yn ymarferol.’ – Elinor Gwynn, Barn, rhif 677 (Mehefin 2019), tud. 42