
- 1881: Elizabeth yn mynd i Goleg Newnham, Caergrawnt.
- 1884: Cafodd ei gosod yn y dosbarth cyntaf yn arholiadau’r Tripos mewn Gwyddoniaeth Foesol.
- 1885: Cafodd ei dewis yn Bennaeth cyntaf y Cambridge Training College for Women Teachers. Menter newydd oedd y sefydliad hwn, a llwyddodd oherwydd gwaith arloesol Elizabeth yn bennaf.
- 1899: Ymddeol a symud i’r Barri. Yn y blynyddoedd dilynol bu'n teithio i ddarlithio yn Ewrop, America a Japan.
- Parhaodd i hyrwyddo addysg uwchradd i ferched, ac roedd yn aelod gweithgar o'r Gymdeithas i Hyrwyddo Addysg i Ferched yng Nghymru.
- 1902: Roedd Elizabeth yn aelod cyfethol o Bwyllgor Addysg Sir Forgannwg.
- Roedd yn aelod o Lys Prifysgol Cymru, a hi oedd yr unig ferch ar y pwyllgor a luniodd siarter i'r brifysgol.
- 1917: Cafodd M.B.E. am y gwaith da a wnaeth hi dros y Groes Goch Brydeinig yn Ne Cymru.
- 1920: Cafodd Elizabeth radd LL.D. 'er anrhydedd' gan Brifysgol Cymru.
- Mae Caergrawnt wedi enwi neuadd ar ei hôl, sef Hughes Hall.
‘Yn 1949, pan ddaeth y coleg yn un o sefydliadau cydnabyddedig Prifysgol Caergrawnt, fe’i ail-enwyd yn Hughes Hall er anrhydedd iddi. Agorodd y coleg gyda phedwar ar ddeg o fyfyrwyr, mewn adeilad cyfyng, ym mis Hydref 1885 .’ – Cyfieithwyd o G. H. L. Le May, ‘Hughes, Elizabeth Phillips’, Oxford Dictionary of National Biography – https://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-37579