Elizabeth Watkin-Jones

Mae Elizabeth Watkin-Jones yn enwog am fod yn awdur llyfrau plant.

llun o Elizabeth Watkin-Jones

• Roedd ei thad yn gapten llong a foddodd yn Ne America cyn cwrdd â’i ferch.
• 1916: Priododd John Watkin-Jones.
• 1919: Symudodd y pâr i Ferthyr ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
• 1920: Dychwelodd Elizabeth i Nefyn pan benodwyd ei gŵr, John, yn brifathro yno.
• 1939–49: Enillodd amryw o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol am nofelau, straeon a dramâu byrion i blant.
• 1946: Ei llyfr ‘Eluned Bengoch’ yn cael ei gyhoeddi.
• 1947: Sgript ‘Onesimus’ yn cael ei gyhoeddi a thri llyfryn arall o ddramâu byrion.
• Cyfrannodd lawer i ‘Tywysydd y Plant’, ‘Trysorfa’r Plant’, ‘Y Winllan’, ‘Cymru’r Plant’, ‘Yr Athro’, ac yn arbennig i’r comic ‘Hwyl’.
• Ysgrifennodd nifer o sgriptiau ar gyfer rhaglenni plant y BBC, a dramâu byrion.
• 1951: ‘Lowri’ yn ‘Storïau Ias a Chyffro’ yn cael ei gyhoeddi.
• 1953: ‘Pwt a Moi’ yn cael ei gyhoeddi.
• Cyhoeddodd saith nofel neu stori hanesyddol ar gyfer plant yn ei chyfnod, sef ‘Plant y Mynachdy’, ‘Luned Bengoch’, ‘Y Cwlwm Cêl’, ‘Y Dryslwyn’, ‘Esyllt’, ‘Lois’.

Man Geni: Nefyn, Gwynedd

Dyddiad Geni: 13 Gorffennaf 1887

Dyddiad Marw: 9 Mehefin 1966

‘Dechreuodd ysgrifennu storïau yn Saesneg i gylchgronau plant fel “Chicks’ Own”, “Bubbles”, a “Fairyland Tales”, cyn troi i ysgrifennu yn Gymraeg.’ – Bedwyr Lewis Jones, Y Bywgraffiadur Cymraeg