Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn)

Mae Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn) yn enwog am fod yn fardd a gafodd ei ladd tra’n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ellis Humphrey Evans 1

• Cafodd gefnogaeth i ddysgu barddoni gan ei dad a’i dad-cu.
• 1907: Enillodd ei Gadair Eisteddfod gyntaf.
• 1910: Urddwyd ef â’r enw Hedd Wyn.
• 1916: Daeth yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
• 1917: Ionawr – Penderfynodd ymuno â’r Royal Welch Fusiliers gan alluogi ei frawd iau i aros adref.
• 1917: Mawrth – Gorffennodd ei awdl ‘Yr Arwr’ yng ngwersyll milwrol Litherland, a phostiodd y gerdd orffenedig i Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead o Ffrainc.
• 1917: 6 Medi – Enillodd y cystadleuaeth, ond cafodd ei ladd ym mrwydr Passchendaele yng Ngwlad Belg ychydig dros fis yn gynharach.
• Yn ystod seremoni’r Cadeirio gorchuddiwyd y Gadair â lliain du, a daeth yn adnabyddus fel ‘Y Gadair Ddu’.
• 1918: Cyhoeddwyd ei gyfrol o ganeuon, ‘Cerddi’r Bugail’.
• Defnyddiwyd yr elw.

Man Geni: Trawsfynydd, Gwynedd

Dyddiad Geni: 13 Ionawr 1887

Dyddiad Marw: 31 Gorffennaf 1917 

‘Mae’r Cymry wedi bod yn cofio am Hedd Wyn fyth ers y diwrnod trist hwnnw yn 1917 pan ddyfarnwyd iddo Gadair
genedlaethol am ei awdl i’r Arwr. Roedd yntau eisoes wedi mynd yn arwr i’w fedd ar feysydd Fflandrys.’ – Ifor ap Glyn, ‘Canrif yn Cofio’ (Gwasg Carreg Gwalch 2017), tud. 5