
• Cafodd Eluned ei magu yn y Wladfa, Patagonia, ac aeth i ysgol Gymraeg.
• 1885: Teithiodd Eluned i Gymru, a dychwelodd am yr eildro yn 1888, pan fynychodd hi ysgol yn Nolgellau am ddwy flynedd.
• 1890: Wedi dychwelyd i’r Wladfa bu’n rhedeg ysgol breswyl i ferched yn Nhrelew.
• 1891: Dechreuodd gystadlu, gan ysgrifennu traethodau i’r Eisteddfod yn y Wladfa.
• 1896: Symudodd i Gymru eto, a chyhoeddodd ysgrifau mewn cylchgrawn o’r enw ‘Cymru’.
• Gweithiodd yn galed i sefydlu ysgol ganolradd Gymraeg yn y Gaiman.
• 1989: Aeth ar daith i’r Andes, gan anfon yr hanes i’r cylchgrawn ‘Cymru’.
• 1903–09: Bu’n un o’r cynorthwywyr yn Llyfrgell Caerdydd ac yn darlithio ar hyd a lled Cymru. Yno aeth ar daith yn y Dwyrain Canol, cyn dychwelyd i’r Wladfa.
• 1904–09: Cyhoeddodd y llyfrau ‘Dringo’r Andes’, a ‘Gwymon y Môr’, a oedd yn adrodd hanes y fordaith o Gymru i Batagonia.
• 1912–18: Bu’n byw yng Nghaerdydd, cyn dychwelyd i’r Wladfa.
• 1914–15: Cyhoeddoedd ‘Ar Dir a Môr’ yn cynnwys hanes ei thaith ym Mhalestina, a ‘Plant yr Haul’, a oedd yn adrodd hanes pobl brodorol Periw.
‘Geneth oedd hi a fagwyd ymhell o Gymru, heb yr hyn a ystyrir yma yn fanteision addysg, ac eto daeth yn un o lenorion pennaf ein cenedl.’ – R. Bryn Williams, ‘Eluned Morgan: Bywgraffiad a Detholiad’ (Y Clwb Llyfrau Cymreig 1948)