
• 1926: Tad Enrico yn marw cyn iddo gael ei eni. Ei fam yn gadael Enrico gyda pherthnasau yn 6 mis oed.
• 1947: Cyrhaeddodd Enrico y Deyrnas Unedig yn gudd-deithiwr ar yr ‘Empire Windrush’.
• Ymaelododd â’r League for Coloured People a’r Coloured Workers’ Association of Great Britain and Northern Ireland fel ymateb i’r hiliaeth gwelodd ym Mhrydain.
• 1950: Priododd Margaret Stone. Cawsant ddau o blant, sef Robert a Paul.
• 1951: Sefydlodd y Gynghrair Affricanaidd, sefydliad i hyrwyddo gwelliant o ran amodau byw a gwaith i bobl o India’r Gorllewin ac Affrica ym Mhrydain ac yn rhyngwladol.
• 1959: Bu’n siarad yn Speaker’s Corner Hyde Park bob dydd am ddeng mlynedd am brofiadau pobl Ddu yn y Deyrnas Unedig wedi llofruddiaeth Kelso Cochrane o Antigua.
• Sefydlodd y misolyn ‘African Voice’, y papur newydd Du cyntaf yn y Deyrnas Unedig.
• Ar ôl i Enrico ymddeol, sefydlodd y Conffederasiwn Cenedlaethol Cymdeithasau Affricanaidd a Charibïaidd.
• 2006: Gwerthu ei gartref a symud i Jamaica.
• 2009: Symud yn ôl i Benmaenmawr yng Ngwynedd.
• 2018: Fe’i cydnabuwyd gan Race Council Cymru yn un o 100 Eicon Cymru Ddu.
‘Cyffyrddodd â bywydau llawer o bobl; siaradodd ag angerdd am ing y tlawd a’r difeddiant.’ – Cyfieithwyd o Mary Ann Stennett yn Jim Thakoordin, ‘Our Lives Our History Our Future: In fond remembrance of Enrico Stennett 1926-2011’ (2014) tud. 31