
• Gwehydd a masnachwr gwlân a gwlanen oedd Evan James.
• Roedd yn cadw’r Ancient Druid Inn yn Argoed, Sir Fynwy, pan anwyd ei fab James.
• Gwnaethon nhw symud i Bontypridd, lle’r oedd gan Evan ffatri wlân yn Mill Street.
• 1854: Yr oedd Evan James yn dipyn o fardd; ceir enghreifftiau o’i waith yn ‘Gardd Aberdâr’.
• 1856: Ionawr – Yn ôl chwedl deuluol, cyfansoddodd ei fab alaw ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ ar dro ar hyd yr Afon Rhondda, ac yna ysgrifennodd Evan y geiriau iddo.
• 1858: Cyflwynodd James y gân, dan yr enw ‘Glan Rhondda’, mewn cystadleuaeth yn Eisteddfod Llangollen.
• 1860: Cafodd ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ ei gyhoeddi mewn llyfr, dan ei enw bresennol.
• 1874: Cafodd ei berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor gan y tenor enwog Robert Rees (Eos Morlais), ac yn raddol cael ei dderbyn fel Anthem Genedlaethol Cymru.
• 1905: ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ oedd yr anthem genedlaethol cyntaf i gael ei ganu ar ddechrau gêm chwaraeon.
• 1930: Dadorchuddiwyd cofeb i Evan a James ym mharc Ynys Angharad, Pontypridd.
‘Cyfansoddwyd tôn a geiriau’r gân a fabwysiadwyd yn ddiweddarach fel ein hanthem genedlaethol ym mis Ionawr 1856. Roedd yn ganlyniad cydweithio rhwng tad a mab o Bontypridd: Evan James (Ieuan ap Iago, 1809-1878), awdur y geiriau, a James James (Iago ap Ieuan, 1833-1902), cyfansoddwr y dôn.’ – ‘Yr Anthem Genedlaethol’, Llyfrgell Genedlaethol Cymru – https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/archifau/yr-anthem-genedlaethol