Frances Batty Shand

Mae Frances Batty Shand yn enwog am fod yn weithiwr elusennol.

Llun yn Dod yn Fuan! Image Coming Soon!

• 1816: Teithiodd Frances, a oedd dal yn blentyn bach, i’r Alban gyda’i thad.
• 1826: Cafodd £3,000 yn ewyllys ei thad ar ei farwolaeth.
• 1859: Symud gyda’i brawd i Gaerdydd, er nad oes tystiolaeth ei bod yn byw yn y dref tan cyfrifiad 1861.
• 1865: Creu Sefydliad y Deillion Caerdydd (The Cardiff Institute for the Blind).
• 1868: Adeilad yn Heol Longcross, oddi ar Heol Casnewydd, yn dod yn adeilad i’r deillion, lle dysgwyd sgiliau er mwyn iddynt allu gweithio.
• 1876: Cyfnod anodd ariannol, cafwyd cymorth gan fenywod yr ardal.
• 1877: Frances yn gadael Caerdydd ar ôl i’w brawd farw.
• 1878: Roedd Frances yn byw yn Rosebank, Bridge of Allan, Swydd Stirling.
• 1879: Adroddwyd yn 1879 bod Cronfa Goffa Shand, a sefydlwyd yn enw ei brawd John, wedi talu morgais o £500 ar adeiladau ar gyfer y sefydliad.
• 1886: Yng nghyfarfod blynyddol Sefydliad y Deillion Caerdydd cyhoeddwyd bod Frances wedi gadael £1,000 i’r sefydliad drwy Gronfa Goffa Shand.
• 1984: Cafodd Sefydliad y Deillion Caerdydd ei ail-enwi yn Tŷ Shand i gydnabod y cyfraniad hwn.

Man Geni: St Catherine, Jamaica

Dyddiad Geni: c. 1815

Dyddiad Marw: 11 Chwefror 1885

‘Derbyniwyd yn wresog y £1,000 a adawyd i’r sefydliad drwy Gronfa Goffa Shand, a disgrifiwyd Frances fel “mam” y sefydliad ac fel “ysbrydoliaeth i’r rhai oedd yn ceisio dilyn ei hesiampl”.’ – Ffion Mair Jones, Y Bywgraffiadur Cymreig