
• 1858: Mynychu ysgol ym Mharis.
• 1861: Mynychu ysgol yn Düsseldorf.
• 1866: Dychwelodd Frances i Brydain. Cychwynnodd ar ei gyrfa feddygol.
• 1867: Frances yn llwyddo yn ei harholiadau rhagbrofol, ond yn fuan wedyn penderfynodd Cyngor Cymdeithas yr Apothecariaid eithrio o’r drwydded rai a gawsai addysg feddygol breifat.
• 1867: Hydref – Frances yn cychwyn ar gwrs meddygol ym Mhrifysgol Zürich.
• 1870: Yr ail ferch i raddio mewn meddygaeth o Brifysgol Zürich, a’r ferch gyntaf o Brydain i ennill gradd MD Ewropeaidd.
• 1871: Sefydlodd y Gymdeithas Iechyd Genedlaethol gydag Elizabeth Blackwell i hyrwyddo addysg glanweithdra.
• 1877: Er iddi ymarfer fel meddyg am saith mlynedd, ni chynhwyswyd enw Frances Hoggan ar y Gofrestr Feddygol hyd at 1877.
• Derbyniodd ei thrwydded gan Goleg Meddygon y Brenin a’r Frenhines yn Iwerddon, y corff arholi cyntaf i agor ei arholiadau trwyddedig i ferched.
• 1875: Etholwyd Frances yn aelod o Gymdeithas Feddygol Prydain.
• 1878: Cymdeithas Feddygol Prydain yn gwrthod derbyn rhagor o ferched; a gwyrdrowyd aelodaeth Hoggan
• 1881–85: Bu Frances hefyd yn rhan o’r ymgyrch dros ferched meddygol yn India.
• 1882: Cyhoeddodd ei hargymhellion yn Education for Girls in Wales.
‘Ni anghofiodd Hoggan ei chefndir Cymreig, a thua diwedd y 1870au ac yn y 1880au cynnar bu’n cymryd rhan mewn trafodaethau’n ymwneud ag addysg ganolradd ac uwch yng Nghymru, gyda phwyslais penodol ar bwysigrwydd cyfleoedd i fenywod a merched.’ – ‘Stori Dr Frances Hoggan’, Cymdeithas Ddysgedig Cymru – https://www.cymdeithasddysgedig.cymru/gwobrau/medal-hoggan/frances_hoggan/