Gareth Richard Vaughan Jones

Mae Gareth Richard Vaughan Jones yn enwog am fod yn ieithydd a newyddiadurwr.

Gareth Vaughan Jones

• 1922: Aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yntaf mewn Ffrangeg.
• Aeth ymlaen i Goleg y Drindod, Caergrawnt. Cafodd B.A. gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg, Almaeneg, a Rwseg.
• 1930: Cafodd ei ddewis i fod yn Ysgrifennydd Preifat i David Lloyd George, i ddelio â materion a chwestiynau tramor.
• 1931: Yn ystod cyfnod o ddwy flynedd gweithiodd yn yr Unol Daleithiau, yn yr Eidal, ac yn Rwsia Sofietaidd.
• 1933: Ymunodd â staff y ‘Western Mail’, Caerdydd.
• 1933: Cafodd gyfle i gwrdd ag Ysgrifennydd Hitler, a derbyniodd wahoddiad i hedfan gyda Hitler yn ei awyren breifat i rali yn Frankfurt.
• 1934: Cychwynnodd ar daith o amgylch y byd.
• 1935: Tra’n teithio ym Mongolia cafodd ei ddal gan filwyr Japaneaidd. Pan ryddhawyd ef cafodd ei anfon ar hyd llwybr diogel honedig drwy ardal lle roedd banditiaid, ond cafodd ei herwgipio a’i ddal am 16 diwrnod.
• 1935: Saethwyd ef yn farw yn Nhalaith Chahar, Tsieina ar 12 Awst, ar noswyl ei ben-blwydd yn 30 oed, yn bosib gan Rwsia Sofietaidd, neu Siapan.

Man Geni: Y Barri, Bro Morgannwg

Dyddiad Geni: 13 Awst 1905

Dyddiad Marw: 12 Awst 1935

‘Roedd ganddo awydd angerddol i ddarganfod beth oedd yn digwydd mewn gwledydd tramor lle bynnag yr oedd unrhyw helynt, ac yn ystod ei ymchwiliadau ni chiliodd rhag unrhyw risg. Roeddwn bob amser wedi ofni y byddai’n cymryd un risg yn ormod.’ – Cyfieithwyd o David Lloyd George yn ‘London Evening Standard’, 26 Awst 1935