
• 1926: Graddio o Goleg Prifysgol yng Nghaerdydd. Mynd ymlaen i’r Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain i astudio cyfansoddi gyda Ralph Vaughan Williams a Gordon Jacob.
• 1930: Aeth i Fienna i astudio gydag Egon Wellesz.
• Bu’n dysgu yn Ysgol Camden i Ferched yn Llundain ac yng Ngholeg Addysg Southlands, a daeth yn gyfaill agos i Benjamin Britten.
• 1938: Cyhoeddi ‘Fantasia on Welsh Nursery Tunes’.
• 1947: Dychwelodd i Dde Cymru.
• 1949: Cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer y ffilm ‘Blue Scar’, a gafodd ei chyfarwyddo gan Jill Craigie.
• Cyfansoddodd gerddoriaeth i gyd-fynd â pherfformiadau radio o ddramâu Saunders Lewis.
• Ystyrir bod rhai o’i gweithiau, fel y ‘Consierto i’r Trwmped’, ymhlith goreuon eu cyfnod.
• 1966: Ei hopera un act ‘The Parlour’ yn cael ei chyhoeddi.
• Diogelwyd ei llawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a rhoddwyd nifer o berfformiadau o’i gwaith ar adeg canmlwyddiant ei geni yn 2006.
‘Ganed a bu farw Williams yn Y Barri, ac enillodd ei henw da presennol fel un o brif gyfansoddwyr Cymru yn bennaf drwy ei cherddoriaeth leisiol a cherddorfaol. Mae hi’n cael y clod gan rai am ysgrifennu’r symffoni Gymreig gyntaf, ac yn 1949 hi oedd y fenyw gyntaf o Brydain i sgorio ffilm nodwedd, sef “Blue Scar”.’ – Cyfieithwyd o Erica Jeal, ‘Grace Williams: Chamber Works review – don’t take this neglected Welsh composer at her word!’, The Guardian, 7 Mawrth 2019 – https://amp.theguardian.com/music/2019/mar/07/grace-williams-chamber-works-review-neglected-welsh-composer-london-chamber-ensemble-mitchell-naxos