Gwen John

Roedd Gwen John yn arlunydd a oedd yn enwog am baentio hunan-bortreadau, paentiadau o ferched eraill, a bywyd llonydd.

Gwen John

• 1884: Symudodd ei theulu i Ddinbych-y-Pysgod.
• 1895: Aeth i Lundain at ei brawd bach, Augustus John, i astudio yn Ysgol Celfyddyd Gain y Slade.
• 1898: Symudodd i Baris, Ffrainc am chwe mis i fynychu ysgol gelf, gan symud yn ôl i Loegr pan orffennodd y cwrs.
• 1903: Aeth yn ôl i Ffrainc i fyw.
• 1913: Ymunodd â’r Eglwys Gatholig.
• 1939: Bu farw yn Dieppe, Ffrainc.
• 1968: Cynhaliwyd arddangosfa adolygol o’i gwaith gan Cyngor y Celfyddydau yn Llundain, Sheffield a Chaerdydd.
• Etifeddwyd ei lluniau gan ei nai Edwin, a oedd ei hunan yn arlunydd dyfrlliw.
• 1976: Prynodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru weddill ei chasgliad gan Edwin, yn cynnwys dros fil o’i lluniadau.

Man Geni: Hwlffordd, Sir Benfro

Dyddiad Geni: 22 Mehefin 1876

Dyddiad Marw: 18 Medi 1939

‘Dechreuodd Gwen John ei hyfforddiant fel arlunydd yn 1895 pan gofrestrodd yn Ysgol Celfyddyd Gain y Slade. O 1904 hyd ei marwolaeth yn 1939 treuliodd y rhan fwyaf o’i hamser yn byw ac yn gweithio ym Mharis.’ – Cyfieithwyd o Alicia Foster, ‘British Artists: Gwen John’ (Tate Publishing 2015), tud. 7