Gwendoline Davies

Mae Gwendoline Davies Gregynog yn enwog am fod yn gasglydd gwaith celf a chymwynasydd.

Gwendoline Davies 1

• 1888: Mam Margaret a Gwen yn marw.
• Addysgwyd Gwen a Margaret yn ysgol Highfield, Hendon, a thrwy deithio tramor, yn enwedig yn Ffrainc.
• 1908: Dechreuodd y ddwy brynu darluniau o ddifri
• Prynodd y chwiorydd blasty Gregynog yn fuan wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r bwriad oedd sefydlu canolfan gelfyddyd a chrefft i Gymru.
• 1923–42: Cyhoeddodd Gwasg Gregynog 42 teitl prin, gan gynnwys nifer o rai hynod hardd.
• 1933–38: Adeiladwyd ystafell gerdd gydag organ, a cynnal gwyliau blynyddol o gerddoriaeth a barddoniaeth
• Y ddwy chwaer oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r cymorth ariannol a gafodd y Cyngor Cerdd Cenedlaethol.
• Roedd Gwen yn fiolinydd amatur medrus.

Man Geni: Llandinam, Powys

Dyddiad Geni: 11 Chwefror 1882

Dyddiad Marw: 3 Gorffennaf 1951

‘Cafodd y chwiorydd Davies fagwraeth yn nhraddodiad caeth yr Hen Gorff – Methodistiaeth Galfinaidd – ym Mhlas Dinam, Sir Drefaldwyn. Fel Cristnogion da, dysgodd y ddwy ei bod yn ddyletswydd arnynt i wneud defnydd da o’r cyfoeth mawr y byddent yn ei etifeddu.’ – ‘Y Chwiorydd Davies’, Amgueddfa Cymru – https://amgueddfa.cymru/caerdydd/celf/argraffiadol-modern/chwiorydd-davies/